bEseia 53:7-8 (LXX)

Acts 8

1Roedd Saul yno, yn cytuno'n llwyr y dylai Steffan farw.

Yr Eglwys yn cael ei herlid a'i gwasgaru

O'r diwrnod hwnnw ymlaen dechreuodd yr eglwys yn Jerwsalem gael ei herlid yn ffyrnig, a dyma pawb ond yr apostolion yn gwasgaru drwy Jwdea a Samaria.
2Cafodd Steffan ei gladdu gan ddynion duwiol fu'n galaru'n fawr ar ei ôl. 3Ond dyma Saul yn mynd ati i ddinistrio'r eglwys. Roedd yn mynd o un tŷ i'r llall ac yn arestio dynion a merched fel ei gilydd a'u rhoi yn y carchar.

Philip yn Samaria

4Roedd y credinwyr oedd wedi eu gwasgaru yn dweud wrth bobl beth oedd y newyddion da ble bynnag oedden nhw'n mynd. 5Er enghraifft, aeth Philip i dref yn Samaria a chyhoeddi'r neges am y Meseia yno. 6Roedd tyrfaoedd o bobl yn dod i wrando ar beth roedd Philip yn ei ddweud, wrth weld yr arwyddion gwyrthiol oedd e'n eu gwneud. 7Roedd ysbrydion drwg yn dod allan o lawer o bobl gan sgrechian, ac roedd llawer o bobl oedd wedi eu parlysu neu'n gloff yn cael iachâd. 8Felly roedd llawenydd anhygoel yn y dre.

Simon y dewin

9Yn y dre honno roedd dewin o'r enw Simon wedi bod yn ymarfer ei swynion ers blynyddoedd, ac yn gwneud pethau oedd yn rhyfeddu pawb yn Samaria. Roedd yn ystyried ei hun yn rhywun pwysig dros ben. 10Roedd pawb, o'r ifancaf i'r hynaf, yn sôn amdano ac yn dweud fod nerth y duw roedden nhw'n ei alw ‛Yr Un Pwerus‛ ar waith ynddo. 11Roedd ganddo lawer o ddilynwyr, a phobl wedi cael eu syfrdanu ers blynyddoedd lawer gan ei ddewiniaeth. 12Ond nawr, dyma'r bobl yn dod i gredu'r newyddion da oedd Philip yn ei gyhoeddi am Dduw yn teyrnasu ac am enw Iesu y Meseia. Cafodd nifer fawr o ddynion a merched eu bedyddio. 13Yna credodd Simon ei hun a chael ei fedyddio. Ac roedd yn dilyn Philip i bobman, wedi ei syfrdanu'n llwyr gan y gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos mor glir fod Duw gyda Philip.

14Pan glywodd yr apostolion yn Jerwsalem fod pobl yn Samaria wedi credu'r neges am Dduw, dyma nhw'n anfon Pedr ac Ioan yno. 15Yn syth ar ôl cyrraedd, dyma nhw'n gweddïo dros y credinwyr newydd yma – ar iddyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân, 16achos doedd yr Ysbryd Glân ddim wedi disgyn arnyn nhw eto. Y cwbl oedd wedi digwydd oedd eu bod wedi cael eu bedyddio fel arwydd eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd Iesu. 17Pan osododd Pedr ac Ioan eu dwylo arnyn nhw, dyma nhw'n derbyn yr Ysbryd Glân.

18Pan welodd Simon fod yr Ysbryd Glân yn dod pan roedd yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl, cynigodd dalu iddyn nhw am y gallu i wneud yr un peth. 19“Rhowch y gallu yma i minnau hefyd, er mwyn i bawb fydda i yn gosod fy nwylo arnyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân,” meddai.

20Ond dyma Pedr yn ei ateb, “Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw! 21Does gen ti ddim rhan yn y gwaith – dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn. 22Tro dy gefn ar y drygioni yma a gweddïa ar yr Arglwydd. Falle y gwnaiff faddau i ti am feddwl y fath beth. 23Rwyt ti'n ddyn chwerw, ac mae pechod wedi dy ddal di yn ei grafangau.”

24Meddai Simon, “Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti'n ei ddweud yn digwydd i mi.”

25Ar ôl tystiolaethu a chyhoeddi neges Duw yn Samaria, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl i Jerwsalem. Ond ar eu ffordd dyma nhw'n galw yn nifer o bentrefi'r Samariaid i gyhoeddi'r newyddion da.

Philip a'r Ethiopiad

26Roedd Philip wedi cael neges gan angel yr Arglwydd yn dweud wrtho: “Dos i lawr i'r de i ffordd yr anialwch, sef y ffordd o Jerwsalem i Gasa.” 27Aeth Philip ar unwaith, a phan oedd ar ei ffordd dyma fe'n dod ar draws eunuch oedd yn swyddog pwysig yn llywodraeth y Candace
8:27 y Candace: Nid enw'r frenhines oedd Candace, ond ei theitl swyddogol (fel y teitl ‛y Pharo‛ yn yr Aifft). Mae Ethiopia yn cyfeirio at deyrnas Nwbia yng ngogledd y Swdan, a'i phrifddinas Meroe. Mae'n debyg mai'r Candace y cyfeirir ati yma oedd Amantitere, oedd yn teyrnasuOC 25–41
, sef Brenhines Ethiopia – fe oedd pennaeth ei thrysorlys. Roedd wedi bod yn Jerwsalem yn addoli Duw,
28ac roedd yn darllen llyfr proffwydoliaeth Eseia wrth deithio yn ei gerbyd ar ei ffordd adre. 29Dyma'r Ysbryd Glân yn dweud wrth Philip, “Dos a rheda wrth ymyl y cerbyd acw.”

30Felly dyma Philip yn rhedeg at y cerbyd, ac roedd yn clywed y dyn yn darllen o lyfr proffwydoliaeth Eseia. Felly gofynnodd Philip iddo, “Wyt ti'n deall beth rwyt ti'n ei ddarllen?”

31“Sut alla i ddeall heb i rywun ei esbonio i mi?” meddai'r dyn. Felly gofynnodd i Philip fynd i eistedd yn y cerbyd gydag e.

32Dyma'r adran o'r ysgrifau sanctaidd roedd yr eunuch yn ei ddarllen:

“Cafodd ei arwain fel dafad i'r lladd-dy.
Yn union fel mae oen yn dawel pan mae'n cael ei gneifio,
wnaeth e ddweud dim.
33Cafodd ei gam-drin heb achos llys teg.
Sut mae'n bosib sôn am ddisgynyddion iddo?
Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw.” b

34A dyma'r eunuch yn gofyn i Philip, “Dywed wrtho i, ydy'r proffwyd yn sôn amdano'i hun neu am rywun arall?” 35Felly dyma Philip yn dechrau gyda'r rhan honno o'r ysgrifau sanctaidd, ac yn mynd ati i ddweud y newyddion da am Iesu wrtho.

36Wrth fynd yn eu blaenau, dyma nhw'n dod at le lle roedd dŵr. “Edrych,” meddai'r eunuch, “mae dŵr yn y fan yma. Oes yna unrhyw reswm pam ddylwn i ddim cael fy medyddio?”
8:36 Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn.37, Na, dim os wyt ti'n credu â'th holl galon, meddai Philip. A dyma'r eunuch yn ateb, “Dw i'n credu mai Iesu y Meseia ydy mab Duw.”
38Rhoddodd orchymyn i'r cerbyd stopio. Wedyn aeth gyda Philip i lawr i'r dŵr, a dyma Philip yn ei fedyddio yn y fan a'r lle.

39Wrth iddyn nhw ddod yn ôl allan o'r dŵr, dyma Ysbryd yr Arglwydd yn cipio Philip i ffwrdd. Wnaeth yr eunuch mo'i weld ar ôl hynny, ond aeth yn ei flaen ar ei daith yn llawen.

40Cafodd Philip ei hun yn Asotus! Yna aeth yn ei flaen i Cesarea gan gyhoeddi'r newyddion da ym mhob un o'r trefi ar y ffordd.

Copyright information for CYM